Yr Heriau
- Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035? /
- Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a chael gwared ar danwydd ffosil yn raddol?
- Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
- Sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 2035?
- Sut gallai addysg, swyddi a gwaith edrych ledled Cymru erbyn 2035?
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Saith Nod Llesiant
- Cymru lewyrchus: Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
- Cymru gydnerth: Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
- Cymru iachach: Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
- Cymru sy’n fwy cyfartal: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
- Cymru o gymunedau cydlynus: Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu: Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Pum Dull o Weithio
- Hirdymor – Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
- Atal – Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
- Integreiddio– – Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
- Cydweithio – Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant.
- Cynnwys – Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.
Parthau
Themâu trawsbynciol y mae’r Grŵp yn bwriadu eu hystyried fel rhan o bob her
- Cyllid – beth yw rôl cyllid wrth gyflawni’r newidiadau a nodir yn yr Her hon?
- Ymgysylltu a Chyfathrebu – beth yw’r cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â’r gymdeithas Gymreig? Sut y dylem gyfleu’r weledigaeth ar gyfer yr Awdurdod Cymwys hwn?
- Pontio Cyfiawn – beth sydd ei angen i sicrhau bod y newidiadau a nodir yn yr Awdurdod Cymwys hwn yn arwain at Bontio Cyfiawn? A yw’r newidiadau a nodwyd yn mynd i arwain at Gymru fwy cyfartal?
- Addysg a Sgiliau – beth yw’r gofynion sgiliau yn y dyfodol i alluogi’r newid hwn? Beth yw rôl addysg wrth ysgogi’r newid hwn?
- Diogelu at y dyfodol – a fydd y newidiadau a nodwyd yn arwain at unrhyw ganlyniadau gwrthnysig nad ydynt yn cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? A oes unrhyw faterion yn codi/tymor hwy yn gysylltiedig â’r her hwn y dylem eu hystyried ?
- Llywodraethu a Chyfreithiol – pa newidiadau polisi a gadwyd yn ôl a/neu bwerau datganoledig ychwanegol sydd eu hangen i gyflawni’r newidiadau a nodwyd? Pa newidiadau llywodraethu a sefydliadol sydd eu hangen yn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus cysylltiedig?
- Seicoleg ac Ymddygiad – sut y gellir cyflawni’r newidiadau ymddygiad gofynnol? Beth yw rôl newidiadau mewn safbwyntiau a gwerthoedd byd-eang wrth alluogi’r newid?
- Economi gylchol – sut y gallem gymhwyso meddwl cylchol i’r her hon? A ydym yn creu heriau adnoddau posibl?
- Economi gylchol – sut y gallem gymhwyso meddwl cylchol i’r her hon? A ydym yn creu heriau adnoddau posibl?
- Effeithiau rhyngwladol – beth yw’r goblygiadau i ollyngiadau carbon/rhoi allan o’r lan yn y newidiadau a nodwyd gennym? Amgylchedd – beth yw’r cyfleoedd i wella ecosystemau a’u gwytnwch, gan gynnwys drwy atebion sy’n seiliedig ar natur? Beth yw’r goblygiadau ar gyfer defnydd a rheolaeth tir yng Nghymru?