Mae Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 (y Grŵp) yn lansio galwad agored arall am dystiolaeth ar gyfres o themâu trawsbynciol sy’n cefnogi trawsnewidiad sero net.

Rhwng 17th Ionawr a 16th Chwefror, bydd Grŵp Herio Cymru Sero Net 2035 yn derbyn tystiolaeth ar y themâu allweddol canlynol:

  1. Cyllid – beth yw rôl mecanweithiau cyllid arloesol wrth yrru sero net erbyn 2035? Faint o gyllid fydd ei angen?
  1. Pontio Teg – rydym am ddilyn dull teg a chynhwysol o ymdrin â phob agwedd ar sero net erbyn 2035: sut y gellir gwneud y mwyaf o drawsnewid teg?
  1. Natur – beth yw rôl natur, a sut y gellir darparu’r gwerth mwyaf posibl ar gyfer natur ochr yn ochr â chyrraedd sero net erbyn 2035?
  1. Digidol a Thechnoleg: Beth yw’r technolegau allweddol o ran darparu sero net erbyn 2035, a sut all Cymru manteisio fwyaf o ddatblygiadau technolegol?

Wrth ystyried y themâu allweddol uchod, dangoswch sut y buasai gweithredu yn cyfrannu tuag at 5 her y Grŵp:

  1. Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035? .
  1. Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a chael gwared ar danwydd ffosil yn raddol?
  1. Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
  1. Sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 2035?
  1. Sut gallai addysg, swyddi a gwaith edrych ledled Cymru erbyn 2035?

Er ein bod wedi amlinellu rhestr o themâu allweddol, rydym hefyd yn barod i dderbyn tystiolaeth ar ein themâu trawsbynciol sy’n weddill, a nodir isod:

  1. Ymgysylltu a Chyfathrebu – beth yw’r cyfleoedd i ymgysylltu â chymdeithas Cymru? Sut ddylen ni gyfleu’r weledigaeth ar gyfer yr her hon? Sut ddylen ni gyfleu’r weledigaeth ar gyfer yr her hon?
  1. Addysg a Sgiliau – beth yw’r gofynion sgiliau yn y dyfodol i alluogi’r newid hwn? Beth yw rôl addysg wrth ysgogi’r newid hwn?
  1. Diogelu’r Dyfodol – – a fydd y newidiadau a nodwyd yn arwain at unrhyw ganlyniadau sy’n groes i nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? A oes unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg/tymor hirach sy’n gysylltiedig â’r Her hon y dylem eu hystyried?
  1. Llywodraethant a Chyfreithiol – pa newidiadau mewn polisïau a gadwyd a/neu bwerau datganoledig ychwanegol sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r newidiadau a nodwyd? Pa newidiadau llywodraethu a sefydliadol sydd eu hangen yn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus cysylltiedig?
  1. Seicoleg ac Ymddygiad – sut gellir cyflawni’r newidiadau ymddygiad gofynnol sydd eu hangen? Beth yw rôl newidiadau mewn safbwyntiau a gwerthoedd byd-eang wrth alluogi’r newid?
  1. Economi gylchol – sut y gallem gymhwyso meddwl cylchol i’r her hon? Ydyn ni’n creu heriau posibl o ran adnoddau? A ydym yn creu heriau adnoddau posibl?
  1. Effeithiau rhyngwladol – beth yw goblygiadau gollwng carbon/alltraethu allanoldebau yn y newidiadau rydym wedi’u nodi?
  1. Cyd-fuddion –– beth yw’r cyfleoedd allweddol yn ein heriau er mwyn sicrhau manteision lluosog i Gymru, y tu hwnt i ostwng allyriadau?

Pe hoffech chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig ar ffurf ffeil PDF neu lanlwytho adroddiad, atodwch hynny gyda’r ffurflen hon ac anfonwch at: stan.townsend@wcpp.org.uk