{"id":462,"date":"2023-04-25T18:00:15","date_gmt":"2023-04-25T18:00:15","guid":{"rendered":"https:\/\/netzero2035.wales\/yr-heriau\/4-sut-y-gellid-cysylltu-pobl-a-lleoedd-ledled-cymru-erbyn-2035\/"},"modified":"2023-10-12T16:00:22","modified_gmt":"2023-10-12T16:00:22","slug":"4-sut-y-gellid-cysylltu-pobl-a-lleoedd-ledled-cymru-erbyn-2035","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/yr-heriau\/4-sut-y-gellid-cysylltu-pobl-a-lleoedd-ledled-cymru-erbyn-2035\/","title":{"rendered":"LIVE #4 How could people and places be connected across Wales by 2035?"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"has-large-font-size\"><strong>Launch of our 4<\/strong><strong><sup>th<\/sup><\/strong><strong> Challenge: <\/strong><strong><em>How could people and places be connected across Wales by 2035?<\/em><\/strong> <\/p>\n\n<p class=\"has-medium-font-size\">Mae cysylltu pobl a lleoedd yn hanfodol ar gyfer iechyd, lles a pherthnasoedd cymdeithasol pobl; er mwyn galluogi dysgu a chyflogaeth, cyfoethogi diwylliant Cymru, ac i gefnogi&#8217;r economi. <\/p>\n\n<p>Dywedodd Eurgain Powell, Prif Ymarferydd Iechyd a Datblygu Cynaliadwy ICC (Iechyd Cyhoeddus Cymru), ac aelod o&#8217;r Gr\u0175p Her:<em>&#8220;Mae&#8217;r ffordd ry ni&#8217;n cysylltu ac yn symud o gwmpas yn cael effaith ar ein hiechyd a&#8217;n hamgylchedd. Bellach, mae ein bywydau yn cael eu llunio gan geir; sydd yn dominyddu ein ffyrdd gan arwain at lygredd aer cynyddol, ynysu cymdeithasol, bywydau eisteddol, colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Gennym gyfle enfawr i newid hyn a chreu cyfleoedd i bobl gysylltu mewn ffyrdd sy&#8217;n well i&#8217;n hiechyd, ein cymunedau a&#8217;n planed.&#8221; <\/em> <\/p>\n\n<p>Dywedodd Lorraine Whitmarsh, Athro Seicoleg Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerfaddon ac aelod o&#8217;r Gr\u0175p Her, <em>&#8220;Bydd cyrraedd allyriadau sero net mewn symudedd erbyn 2035 yn gofyn am ailfeddwl sut rydym yn cysylltu \u00e2 phobl a lleoedd mewn modd radical &#8211; lle gallai fod yna gyfleoedd i ddisodli teithio corfforol gyda chysylltedd digidol, yn ogystal \u00e2 theithio mewn dulliau cynaliadwy a defnyddio technolegau cerbydau &#8216;gwyrdd&#8217;. Rydym am ddysgu o fentrau llwyddiannus yma yng Nghymru, ac mewn mannau eraill yn y byd i archwilio, sut y gallwn dorri allyriadau symudedd yn gyflym ac yn gynaliadwy.&#8221;<\/em> <\/p>\n\n<p class=\"has-large-font-size\"><strong>Drafft o\u2019n gweledigaeth <\/strong> <\/p>\n\n<p>Trwy ddeialog gychwynnol, rydym wedi llunio gweledigaeth ddrafft er mwyn dangos ein cyfeiriad teithio ac ysbrydoli meddyliau ar <em>sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 203<\/em>5, tuag at gyflawni sero net ac uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol: <\/p>\n\n<p>erbyn 2035 bydd gennym gysylltedd a symudedd (digidol a thrafnidiaeth) cynaliadwy, sero-net, hygyrch, fforddiadwy ac effeithlon ar gyfer pob person a lle ledled Cymru a fydd yn helpu i sicrhau cenedl decach, iachach, gwyrddach a mwy llewyrchus. <\/p>\n\n<p>Mae hyn yn golygu y byddwn yn: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>ymateb i anghenion amrywiol grwpiau a busnesau trwy Gymru wledig a threfol, gan ganolbwyntio ar: <\/li>\n<\/ul>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>(a) lleihau&#8217;r angen am symud pobl a nwyddau <\/li>\n\n\n\n<li>(b) symud i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth* ble bo hynny&#8217;n bosibl <\/li>\n\n\n\n<li>(c) gwella effeithlonrwydd symud o ran lleihau a dileu allyriadau cerbydau <\/li>\n<\/ul>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>leihau allyriadau nwyon t\u0177 gwydr i sero net, diogelu a chynyddu bioamrywiaeth, gwella ansawdd aer, gwella gwydnwch ecosystemau a seilwaith, a lleihau gwastraff <\/li>\n\n\n\n<li>creu lleoedd sy&#8217;n well ar gyfer byw a gweithio, sy&#8217;n cyfrannu at boblogaeth iachach yng Nghymru ac yn lleihau unigedd cymdeithasol <\/li>\n\n\n\n<li>\u00b7 sicrhau bod gan bawb mynediad at, a\u2019r hyder i deithio mewn modd sy&#8217;n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy, gan gyfrannu at Gymru fwy cyfartal <\/li>\n\n\n\n<li>cyfrannu at ffyniant economaidd Cymru \u0336 gan gefnogi llesiant y genedl trwy gadwyni cyflenwi cynaliadwy lleol ac optimeiddio symudiad nwyddau, mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau, yn ogystal \u00e2 datblygu a gweithredu&#8217;r datblygiadau arloesol diweddaraf <\/li>\n\n\n\n<li>\u00b7 cefnogi&#8217;r iaith a&#8217;r diwylliant Cymraeg, ac amddiffyn a gwella&#8217;r amgylchedd hanesyddol. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Rydym am ddysgu o arfer gorau ledled y byd ac o brofiad byw dinasyddion Cymru; gan ddefnyddio technolegau ac arferion newydd a&#8217;u cefnogi&#8217;n gyfrifol, adeiladu ewyllys gwleidyddol a chefnogi uchelgeisiau&#8217;r cyhoedd drwy eirioli dros gynnydd radical \u0336 a allai fod y tu hwnt i gylch gwaith Llywodraeth Cymru mewn rhai achosion. <\/p>\n\n<p>*= gweithredol, cyhoeddus, wedi\u2019i rhannu, ac aml-foddol <\/p>\n\n<p class=\"has-large-font-size\"><strong>Ein cais am eich tystiolaeth a&#8217;ch sylwadau<\/strong> <\/p>\n\n<p>Cefnogwch ni i ddod o hyd i&#8217;r ffordd ymlaen i Gymru o ran symudedd sero net sy&#8217;n decach, yn fwy gwydn ac yn lanach erbyn 2035 \u0336 neu&#8217;n gynt. <\/p>\n\n<p>Wrth ofyn am ymatebion i&#8217;r her hon, rydym yn cydnabod strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys <em>Llwybr Newydd<\/em> (2021) <sup>1<\/sup>, Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai agweddau ar drafnidiaeth wedi&#8217;u datganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae eraill yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU <sup>2<\/sup> <\/p>\n\n<p>Gyda hynny mewn golwg, nodwn ein bod hefyd wrthi&#8217;n ystyried r\u00f4l morgludiant a hedfanaeth Cymreig yn ein cwmpas. <\/p>\n\n<p>Mae&#8217;r Gr\u0175p yn croesawu cyflwyno barn, astudiaethau achos a thystiolaeth berthnasol, y gellir eu cyflwyno drwy wefan y Gr\u0175p: <a href=\"https:\/\/netzero2035.wales\/submit-evidence\/evidence-submission-portal\/\">https:\/\/netzero2035.wales\/submit-evidence\/evidence-submission-portal\/.<\/a> <\/p>\n\n<p>Sylwch fod y Gr\u0175p Her yn chwilio am dystiolaeth o&#8217;r hyn y gellir ei wneud erbyn 2035 a beth fuasai angen bod ar waith er mwyn i hynny ddigwydd. Bydd yr alwad hon am dystiolaeth ar agor o 12 Hydref 2023 \u2013 30 Tachwedd 2023. <\/p>\n\n<p>Bydd y Gr\u0175p yn gwahodd adborth pellach ar ei gasgliadau drafft cyn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ystod haf 2024. Bydd mwy o fanylion ar gael eu darparu i ymatebwyr maes o law. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Launch of our 4th Challenge: How could people and places be connected across Wales by 2035? Mae cysylltu pobl a lleoedd yn hanfodol ar gyfer iechyd, lles a pherthnasoedd cymdeithasol pobl; er mwyn galluogi dysgu a chyflogaeth, cyfoethogi diwylliant Cymru, ac i gefnogi&#8217;r economi. Dywedodd Eurgain Powell, Prif Ymarferydd Iechyd a Datblygu Cynaliadwy ICC (Iechyd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":448,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-462","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/462","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=462"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/462\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":693,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/462\/revisions\/693"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/448"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=462"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}