{"id":660,"date":"2023-07-03T09:29:52","date_gmt":"2023-07-03T09:29:52","guid":{"rendered":"https:\/\/netzero2035.wales\/2023\/07\/03\/maer-ail-her-yn-fyw\/"},"modified":"2023-07-03T10:03:07","modified_gmt":"2023-07-03T10:03:07","slug":"maer-ail-her-yn-fyw","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/2023\/07\/03\/maer-ail-her-yn-fyw\/","title":{"rendered":"Mae&#8217;r ail her yn FYW!"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mae Gr\u0175p Her Sero Net 2035 Cymru yn lansio ei ail her: Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni tra&#8217;n dileu tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2035?<\/strong><\/h3>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">03\/07\/2023<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Heddiw mae Gr\u0175p Her Sero Net 2035 Cymru yn lansio ei ail o bum Her: Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 tra&#8217;n dileu tanwydd ffosil yn raddol?<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel rhan o&#8217;n trawsnewidiad i sero net, mae cyfle enfawr i Gymru ddatblygu system ynni hollol wahanol; un nad yw&#8217;n niweidio ein hamgylchedd, sy\u2019n fwy gwydn i ysgytiadau, sy\u2019n cadw mwy o arian a swyddi yng Nghymru ac sydd yn galluogi rhannau eraill o&#8217;r economi i ddatgarboneiddio&#8217;n gyflym. un nad yw&#8217;n niweidio ein hamgylchedd, sy\u2019n fwy gwydn i ysgytiadau, sy\u2019n cadw mwy o arian a swyddi yng Nghymru ac sydd yn galluogi rhannau eraill o&#8217;r economi i ddatgarboneiddio&#8217;n gyflym.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Matthew Knight, Pennaeth Materion Marchnad a Llywodraeth Siemens Energy ac aelod o&#8217;r Gr\u0175p: <em>&#8220;Yn rhy aml, mae datgarboneiddio&#8217;r system ynni yn cael ei ystyried yn &#8216;broblem i&#8217;w datrys&#8217; yn hytrach na &#8216;chyfle na ddylen ni ei golli&#8217;. Gwyddom fod llawer o waith yn digwydd yng Nghymru ac yn y DU i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, uwchraddio&#8217;r grid a darparu cyflenwadau diogel i gwsmeriaid ynni. Ein dyhead yw sicrhau bod y trosglwyddiad ynni hwn i sero net yn cael ei ddarparu&#8217;n gyflym a bod holl gymdeithas Cymru yn elwa.&#8221;<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dywedodd Paul Allen, Cydlynydd Gwybodaeth ac Allgymorth Prydain Ddi-garbon yn y Ganolfan Technoleg Amgen ac aelod o&#8217;r Gr\u0175p: <em>&#8220;Yn ogystal \u00e2 bod yn un o&#8217;r mesurau allweddol sydd eu hangen i helpu lleihau allyriadau nwyon t\u0177 gwydr, mae gan system ynni gl\u00e2n a ddatblygwyd fel rhan o drawsnewidiad cyfiawn y potensial i greu ystod eang o fuddion i bobl a chymunedau ledled Cymru. Gall dysgu o fentrau llwyddiannus yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y byd ein helpu i archwilio ffyrdd o gydweithio tuag at system ynni sy&#8217;n addas ar gyfer y dyfodol.&#8221;<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gweledigaeth ar gyfer Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni tra&#8217;n dileu tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2035?<\/strong><\/h3>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy ein deialog gychwynnol rydym wedi cynhyrchu datganiadau drafft o&#8217;n gweledigaeth er mwyn dangos ein cyfeiriad a gobeithiwn byddant yn procio\u2019r meddwl am sut wedd allai fod ar system ynni i Gymru yn 2035 i gyflawni sero net ac uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Trwy system ynni sydd wedi&#8217;i datgarboneiddio&#8217;n gyflym sydd hefyd yn sicrhau safonau moesegol ac amgylcheddol uchel yn rhyngwladol.<\/li>\n\n\n\n<li>Trwy system ynni wedi&#8217;i optimeiddio sy&#8217;n fwy gwydn i darfiadau i\u2019r cyflenwad a chynnydd mewn costau, gan gadw gwerth i economi, cymunedau, busnesau a sefydliadau Cymru.<\/li>\n\n\n\n<li>Trwy system ynni tecach a chylchol sy&#8217;n datgloi datgarboneiddio pob rhan o gymdeithas Cymru i ddarparu&#8217;r buddion a&#8217;r cyfleoedd mwyaf posibl i bobl Cymru.<\/li>\n\n\n\n<li>Trwy systemau ynni sy&#8217;n gweithredu&#8217;n dda a ddatblygwyd trwy brosesau sy&#8217;n cymryd golwg system gyfan, ac sy&#8217;n ymgysylltu cymunedau&#8217;n effeithiol ar gyfer cyfranogiad a pherchnogaeth well.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ein cais am eich tystiolaeth<\/strong><\/h3>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Helpwch ni ddod o hyd i\u2019r llwybr ymlaen i Gymru tuag at system ynni sero net, sy&#8217;n decach, yn fwy gwydn ac yn lanach erbyn 2035 neu&#8217;n gynt.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn cydnabod trefniadau presennol a threfniadau llywodraethu system ynni Cymru wrth geisio syniadau ar gyfer yr her hon Er enghraifft, mae trydan yng Nghymru yn rhan o system drydan integredig ehangach Prydain Fawr.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llawer o weithgareddau polisi a rheoleiddiol sy&#8217;n bodoli eisoes wedi&#8217;u hanelu at ddarparu seilwaith ynni datgarboneiddio gan gynnwys y targed i ddatgarboneiddio system drydan Prydain Fawr erbyn 2035 ac adroddiad disgwyliedig y Comisiynydd Rhwydwaith Trydan ar gyflymu cysylltiadau grid.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn awyddus i dderbyn syniadau sy&#8217;n adeiladu ar ac yn cyflymu\u2019r hyn sydd eisoes yn digwydd, yn enwedig enghreifftiau o arfer da gyda mwy o fanteision i Gymru sy&#8217;n dangos yr hyn y gellir ei wireddu erbyn 2035 Gall y rhain fod o unrhyw wlad ac ar unrhyw raddfa, o weithredoedd unigol neu gymunedol i gynlluniau cenedlaethol.<\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Gr\u0175p yn croesawu cyflwyno barn, astudiaethau achos a thystiolaeth berthnasol, y gellir eu cyflwyno drwy wefan y Gr\u0175p: <span style=\"text-decoration: underline;\">https:\/\/netzero2035.wales\/submit-evidence\/evidence-submission-portal\/. <\/span> <\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Sylwch fod y Gr\u0175p yn chwilio am dystiolaeth o&#8217;r hyn y gellir ei wneud erbyn 2035 a beth fuasai angen bod ar waith er mwyn i hynny ddigwydd. Bydd yr ail her hon<strong> Sut y gallai Cymru ddiwallu ei hanghenion ynni tra&#8217;n dileu&#8217;r tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2035? ar agor o 3ydd Gorffennaf \u2013 30ain Medi 2023.<\/strong><\/p>\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y Gr\u0175p yn gwahodd adborth pellach ar ei gasgliadau drafft cyn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ystod haf 2024. Bydd mwy o fanylion yn cael eu darparu i&#8217;r ymatebwyr maes o law.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gr\u0175p Her Sero Net 2035 Cymru yn lansio ei ail her: Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni tra&#8217;n dileu tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2035? 03\/07\/2023 Heddiw mae Gr\u0175p Her Sero Net 2035 Cymru yn lansio ei ail o bum Her: Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 tra&#8217;n dileu tanwydd ffosil [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":714,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[2],"tags":[],"class_list":["post-660","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/660","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=660"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/660\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":663,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/660\/revisions\/663"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/714"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=660"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=660"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/netzero2035.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=660"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}