Yr Heriau
Mae’r Grŵp yn trefnu ei waith trwy gyfres o Feysydd Her a ofynnir fel cwestiynau, gyda’r bwriad o ysgogi meddwl y tu hwnt i ffiniau nodweddiadol sectorau. Bydd gwneud hynny’n galluogi’r Grŵp i nodi’n well ymyriadau a allai gael effeithiau trawsnewidiol. Mae’r Grŵp yn ceisio tystiolaeth i danategu llwybrau carlam a fydd yn cyflawni canlyniadau sero net erbyn 2035 ac sydd â chyd-fuddiannau yn enwedig yng nghyd-destun pontio cyfiawn a bod yn natur gadarnhaol.
Yng nghyd-destun cyflymu’r broses o gyflawni sero net yng Nghymru hyd at 2035, mae’r Grŵp yn gweithredu drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ei nodau a’i ffyrdd o weithio. Bydd heriau’n cael eu lansio un ar y tro, ond bydd ymatebwyr yn cael eu gwahodd i gysylltu eu cynigion â meysydd Her eraill i ddangos cyd-fuddiannau.
Y pum Her Net Sero 2035 yw:
- Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?
- Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 a chael gwared ar danwydd ffosil yn raddol?
- Sut y gallai Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035?
- Sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 2035?
- Sut gallai addysg, swyddi a gwaith edrych ledled Cymru erbyn 2035?