Launch of our 4th Challenge: How could people and places be connected across Wales by 2035?
Mae cysylltu pobl a lleoedd yn hanfodol ar gyfer iechyd, lles a pherthnasoedd cymdeithasol pobl; er mwyn galluogi dysgu a chyflogaeth, cyfoethogi diwylliant Cymru, ac i gefnogi’r economi.
Dywedodd Eurgain Powell, Prif Ymarferydd Iechyd a Datblygu Cynaliadwy ICC (Iechyd Cyhoeddus Cymru), ac aelod o’r Grŵp Her:“Mae’r ffordd ry ni’n cysylltu ac yn symud o gwmpas yn cael effaith ar ein hiechyd a’n hamgylchedd. Bellach, mae ein bywydau yn cael eu llunio gan geir; sydd yn dominyddu ein ffyrdd gan arwain at lygredd aer cynyddol, ynysu cymdeithasol, bywydau eisteddol, colli bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Gennym gyfle enfawr i newid hyn a chreu cyfleoedd i bobl gysylltu mewn ffyrdd sy’n well i’n hiechyd, ein cymunedau a’n planed.”
Dywedodd Lorraine Whitmarsh, Athro Seicoleg Amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerfaddon ac aelod o’r Grŵp Her, “Bydd cyrraedd allyriadau sero net mewn symudedd erbyn 2035 yn gofyn am ailfeddwl sut rydym yn cysylltu â phobl a lleoedd mewn modd radical – lle gallai fod yna gyfleoedd i ddisodli teithio corfforol gyda chysylltedd digidol, yn ogystal â theithio mewn dulliau cynaliadwy a defnyddio technolegau cerbydau ‘gwyrdd’. Rydym am ddysgu o fentrau llwyddiannus yma yng Nghymru, ac mewn mannau eraill yn y byd i archwilio, sut y gallwn dorri allyriadau symudedd yn gyflym ac yn gynaliadwy.”
Drafft o’n gweledigaeth
Trwy ddeialog gychwynnol, rydym wedi llunio gweledigaeth ddrafft er mwyn dangos ein cyfeiriad teithio ac ysbrydoli meddyliau ar sut y gellid cysylltu pobl a lleoedd ledled Cymru erbyn 2035, tuag at gyflawni sero net ac uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:
erbyn 2035 bydd gennym gysylltedd a symudedd (digidol a thrafnidiaeth) cynaliadwy, sero-net, hygyrch, fforddiadwy ac effeithlon ar gyfer pob person a lle ledled Cymru a fydd yn helpu i sicrhau cenedl decach, iachach, gwyrddach a mwy llewyrchus.
Mae hyn yn golygu y byddwn yn:
- ymateb i anghenion amrywiol grwpiau a busnesau trwy Gymru wledig a threfol, gan ganolbwyntio ar:
- (a) lleihau’r angen am symud pobl a nwyddau
- (b) symud i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth* ble bo hynny’n bosibl
- (c) gwella effeithlonrwydd symud o ran lleihau a dileu allyriadau cerbydau
- leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net, diogelu a chynyddu bioamrywiaeth, gwella ansawdd aer, gwella gwydnwch ecosystemau a seilwaith, a lleihau gwastraff
- creu lleoedd sy’n well ar gyfer byw a gweithio, sy’n cyfrannu at boblogaeth iachach yng Nghymru ac yn lleihau unigedd cymdeithasol
- · sicrhau bod gan bawb mynediad at, a’r hyder i deithio mewn modd sy’n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn fforddiadwy, gan gyfrannu at Gymru fwy cyfartal
- cyfrannu at ffyniant economaidd Cymru ̶ gan gefnogi llesiant y genedl trwy gadwyni cyflenwi cynaliadwy lleol ac optimeiddio symudiad nwyddau, mynediad at gyflogaeth a gwasanaethau, yn ogystal â datblygu a gweithredu’r datblygiadau arloesol diweddaraf
- · cefnogi’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, ac amddiffyn a gwella’r amgylchedd hanesyddol.
Rydym am ddysgu o arfer gorau ledled y byd ac o brofiad byw dinasyddion Cymru; gan ddefnyddio technolegau ac arferion newydd a’u cefnogi’n gyfrifol, adeiladu ewyllys gwleidyddol a chefnogi uchelgeisiau’r cyhoedd drwy eirioli dros gynnydd radical ̶ a allai fod y tu hwnt i gylch gwaith Llywodraeth Cymru mewn rhai achosion.
*= gweithredol, cyhoeddus, wedi’i rhannu, ac aml-foddol
Ein cais am eich tystiolaeth a’ch sylwadau
Cefnogwch ni i ddod o hyd i’r ffordd ymlaen i Gymru o ran symudedd sero net sy’n decach, yn fwy gwydn ac yn lanach erbyn 2035 ̶ neu’n gynt.
Wrth ofyn am ymatebion i’r her hon, rydym yn cydnabod strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Llwybr Newydd (2021) 1, Strategaeth Trafnidiaeth Cymru. Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai agweddau ar drafnidiaeth wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae eraill yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU 2
Gyda hynny mewn golwg, nodwn ein bod hefyd wrthi’n ystyried rôl morgludiant a hedfanaeth Cymreig yn ein cwmpas.
Mae’r Grŵp yn croesawu cyflwyno barn, astudiaethau achos a thystiolaeth berthnasol, y gellir eu cyflwyno drwy wefan y Grŵp: https://netzero2035.wales/submit-evidence/evidence-submission-portal/.
Sylwch fod y Grŵp Her yn chwilio am dystiolaeth o’r hyn y gellir ei wneud erbyn 2035 a beth fuasai angen bod ar waith er mwyn i hynny ddigwydd. Bydd yr alwad hon am dystiolaeth ar agor o 12 Hydref 2023 – 30 Tachwedd 2023.
Bydd y Grŵp yn gwahodd adborth pellach ar ei gasgliadau drafft cyn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ystod haf 2024. Bydd mwy o fanylion ar gael eu darparu i ymatebwyr maes o law.