Mae Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru yn lansio ei ail her: Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni tra’n dileu tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2035?
03/07/2023
Heddiw mae Grŵp Her Sero Net 2035 Cymru yn lansio ei ail o bum Her: Sut y gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni erbyn 2035 tra’n dileu tanwydd ffosil yn raddol?
Fel rhan o’n trawsnewidiad i sero net, mae cyfle enfawr i Gymru ddatblygu system ynni hollol wahanol; un nad yw’n niweidio ein hamgylchedd, sy’n fwy gwydn i ysgytiadau, sy’n cadw mwy o arian a swyddi yng Nghymru ac sydd yn galluogi rhannau eraill o’r economi i ddatgarboneiddio’n gyflym. un nad yw’n niweidio ein hamgylchedd, sy’n fwy gwydn i ysgytiadau, sy’n cadw mwy o arian a swyddi yng Nghymru ac sydd yn galluogi rhannau eraill o’r economi i ddatgarboneiddio’n gyflym.
Dywedodd Matthew Knight, Pennaeth Materion Marchnad a Llywodraeth Siemens Energy ac aelod o’r Grŵp: “Yn rhy aml, mae datgarboneiddio’r system ynni yn cael ei ystyried yn ‘broblem i’w datrys’ yn hytrach na ‘chyfle na ddylen ni ei golli’. Gwyddom fod llawer o waith yn digwydd yng Nghymru ac yn y DU i gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, uwchraddio’r grid a darparu cyflenwadau diogel i gwsmeriaid ynni. Ein dyhead yw sicrhau bod y trosglwyddiad ynni hwn i sero net yn cael ei ddarparu’n gyflym a bod holl gymdeithas Cymru yn elwa.”
Dywedodd Paul Allen, Cydlynydd Gwybodaeth ac Allgymorth Prydain Ddi-garbon yn y Ganolfan Technoleg Amgen ac aelod o’r Grŵp: “Yn ogystal â bod yn un o’r mesurau allweddol sydd eu hangen i helpu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, mae gan system ynni glân a ddatblygwyd fel rhan o drawsnewidiad cyfiawn y potensial i greu ystod eang o fuddion i bobl a chymunedau ledled Cymru. Gall dysgu o fentrau llwyddiannus yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y byd ein helpu i archwilio ffyrdd o gydweithio tuag at system ynni sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”
Gweledigaeth ar gyfer Sut gallai Cymru ddiwallu anghenion ynni tra’n dileu tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2035?
Trwy ein deialog gychwynnol rydym wedi cynhyrchu datganiadau drafft o’n gweledigaeth er mwyn dangos ein cyfeiriad a gobeithiwn byddant yn procio’r meddwl am sut wedd allai fod ar system ynni i Gymru yn 2035 i gyflawni sero net ac uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Trwy system ynni sydd wedi’i datgarboneiddio’n gyflym sydd hefyd yn sicrhau safonau moesegol ac amgylcheddol uchel yn rhyngwladol.
- Trwy system ynni wedi’i optimeiddio sy’n fwy gwydn i darfiadau i’r cyflenwad a chynnydd mewn costau, gan gadw gwerth i economi, cymunedau, busnesau a sefydliadau Cymru.
- Trwy system ynni tecach a chylchol sy’n datgloi datgarboneiddio pob rhan o gymdeithas Cymru i ddarparu’r buddion a’r cyfleoedd mwyaf posibl i bobl Cymru.
- Trwy systemau ynni sy’n gweithredu’n dda a ddatblygwyd trwy brosesau sy’n cymryd golwg system gyfan, ac sy’n ymgysylltu cymunedau’n effeithiol ar gyfer cyfranogiad a pherchnogaeth well.
Ein cais am eich tystiolaeth
Helpwch ni ddod o hyd i’r llwybr ymlaen i Gymru tuag at system ynni sero net, sy’n decach, yn fwy gwydn ac yn lanach erbyn 2035 neu’n gynt.
Rydym yn cydnabod trefniadau presennol a threfniadau llywodraethu system ynni Cymru wrth geisio syniadau ar gyfer yr her hon Er enghraifft, mae trydan yng Nghymru yn rhan o system drydan integredig ehangach Prydain Fawr.
Mae llawer o weithgareddau polisi a rheoleiddiol sy’n bodoli eisoes wedi’u hanelu at ddarparu seilwaith ynni datgarboneiddio gan gynnwys y targed i ddatgarboneiddio system drydan Prydain Fawr erbyn 2035 ac adroddiad disgwyliedig y Comisiynydd Rhwydwaith Trydan ar gyflymu cysylltiadau grid.
Rydym yn awyddus i dderbyn syniadau sy’n adeiladu ar ac yn cyflymu’r hyn sydd eisoes yn digwydd, yn enwedig enghreifftiau o arfer da gyda mwy o fanteision i Gymru sy’n dangos yr hyn y gellir ei wireddu erbyn 2035 Gall y rhain fod o unrhyw wlad ac ar unrhyw raddfa, o weithredoedd unigol neu gymunedol i gynlluniau cenedlaethol.
Mae’r Grŵp yn croesawu cyflwyno barn, astudiaethau achos a thystiolaeth berthnasol, y gellir eu cyflwyno drwy wefan y Grŵp: https://netzero2035.wales/submit-evidence/evidence-submission-portal/.
Sylwch fod y Grŵp yn chwilio am dystiolaeth o’r hyn y gellir ei wneud erbyn 2035 a beth fuasai angen bod ar waith er mwyn i hynny ddigwydd. Bydd yr ail her hon Sut y gallai Cymru ddiwallu ei hanghenion ynni tra’n dileu’r tanwydd ffosil yn raddol erbyn 2035? ar agor o 3ydd Gorffennaf – 30ain Medi 2023.
Bydd y Grŵp yn gwahodd adborth pellach ar ei gasgliadau drafft cyn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ystod haf 2024. Bydd mwy o fanylion yn cael eu darparu i’r ymatebwyr maes o law.
Leave a Reply