Croeso i Grŵp Sero Net Cymru 2035

Newyddion: Grwp Herio Cymru Sero Net 2035 yn landsio ei her gyntaf: Sut gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?

Yr hyn a wnawn

Mae’r byd yn profi effeithiau trychinebus yr argyfwng hinsawdd ac ar hyn o bryd nid yw ar y trywydd iawn i osgoi effeithiau pellach. Yn ddiweddar, cyhoeddodd gwyddonwyr blaenllaw yr hyn a elwir yn “ein rhybudd terfynol”. Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ar y cyd wedi gwahodd grŵp annibynnol i archwilio sut y gall y wlad gyflymu ei throsglwyddiad i sero net, a sut y gallai fod yn bosibl diwygio ei tharged i 2035 o 2050 ymlaen.

Tasg y ‘Grŵp’, dan arweiniad y cyn Weinidog Amgylchedd Jane Davidson, yw:

  • dod o hyd i’r enghreifftiau gorau o newid trawsnewidiol o Gymru ac o gwmpas y byd;
  • herio llywodraeth Cymru a Senedd i fynd ymhellach ac yn gyflymach;
  • dychmygu sut olwg sydd ar ddyfodol tecach, mwy cynaliadwy i genedl y Cymry.

Pwy ydym ni

Mae’r Grŵp yn cynnwys 25 o aelodau annibynnol, di-dâl ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o Senedd Ieuenctid Cymru. Cefnogir y Grŵp gan Ysgrifenyddiaeth, ochr yn ochr â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru sydd hefyd wedi cael cais gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwaith y Grŵp fel sefydliad annibynnol.