Mae’r her addysg, swyddi a gwaith yn FYW!

Datganiadau pennawd

Dwedodd Jennifer Rudd, Uwch-Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ac aelod o’r Grŵp Her: “Mae cyrraedd sero net mewn addysg a sgiliau yn wahanol i unrhyw un o’r heriau eraill a lansiwyd hyd yn hyn, ac yn mynd y tu hwnt i gyfri carbon, neu seilwaith newydd. Drwy’r her hon mae gennym gyfle i lunio meddyliau’r rhai a fydd yn llunio’r dyfodol, nid yn unig drwy’r Cwricwlwm i Gymru newydd ond hefyd drwy feddwl am ailhyfforddi ac uwchsgilio’r gweithlu presennol i gyd-fynd â thrawsnewidiad cyfiawn.”

Dwedodd Ben Rawlence, Cyfarwyddwr Coleg y Mynyddoedd Duon ac aelod o’r Grŵp Her : “Mae addysg gyhoeddus yn her drawsbynciol hanfodol wrth gyflawni sero net neu unrhyw drawsnewidiad cymdeithasol ar raddfa fawr; os gall pobl ddeall yr argyfwng yna gallant ddeall y cyfle i drawsnewid cyfiawn i bawb i Gymru fwy cynaliadwy a gwydn.”

Ein gweledigaeth a’r angen i ni boeni

Trwy ddeialog gychwynnol, rydym wedi cynhyrchu darn ysgogol i ddangos ein gweledigaeth ac ysbrydoli meddyliau ar Sut le fydd ar addysg, swyddi a gwaith ledled Cymru yn 2035? er mwyn cyflawni sero net ac uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Addysg

Dylid addysgu newid hinsawdd mewn ysgolion fel pwnc gorfodol (fel Addysg Bersonol a Chymdeithasol [ABCh]) er mwyn cynnig dealltwriaeth sylfaenol i bob myfyriwr yng Nghyfnod Allweddol 1-4 o’r effaith anthropogenig ar y byd ehangach (o ran argyfyngau natur a hinsawdd) Dylai’r wybodaeth fod yn briodol i oedran a Chyfnod Allweddol, gan ganolbwyntio ar gamau ymarferol y gallwn eu cymryd a beth mae’r newidiadau sydd i ddod yn ei olygu ar gyfer trawsnewid cymdeithasol, trwy ffocysu ar yr atebion cymdeithasol, ac nid y rhai technolegol yn unig. Bydd y dull hwn yn ennyn gweithredu a gobaith mewn pobl ifanc. Nid diwedd y byd yw newid hinsawdd, ond dechrau newid yn y ffordd yr ydym yn symud ymlaen fel cymdeithas o’r cyfnod hwn. Mae newid yn yr hinsawdd yn symptom o arferion anghynaladwy dros ganrifoedd ac yn gyfle dysgu i wneud pethau’n wahanol. Mae cynaliadwyedd yn cael ei blethu drwy bob pwnc yn y cwricwlwm newydd ac mae’n rhaid rhoi pwyslais ar addysgu hyn.

Wrth i lwybrau myfyrwyr CA5 ymwahanu, mi ddylai Lefel A yn sector cynaliadwyedd/hinsawdd penodol fod ar gael Rhaid i gyrsiau coleg a llwybrau galwedigaethol sy’n benodol ar gyfer hyfforddi pobl mewn sgiliau’r dyfodol hefyd fod yn hygyrch i bob dysgwr O ran myfyrwyr nad sydd yn dewis cyrsiau sy’n ymwneud yn benodol â’r hinsawdd/cynaliadwyedd, dylai addysg gyffredinol newid hinsawdd barhau yn yr un ffordd ag y mae gan fyfyrwyr ABCh, mathemateg a Saesneg neu yn cwblhau cymhwyster Bagloriaeth Cymru / Astudiaethau Cyffredinol ar hyn o bryd.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis graddau lefel prifysgol, dylai modiwlau byr ar yr hinsawdd/cynaliadwyedd fod yn orfodol i bob myfyriwr ac wedi’u teilwra i’r opsiwn gradd ble bynnag y bo modd. Dylai cyrsiau gradd derbyn ‘archwiliad cynaliadwyedd’ i sicrhau eu bod yn addas, yn ystyried realiti ffisegol yr effeithiau sy’n dod i’r amlwg ar y newid yn yr hinsawdd a pheidio â hybu byd-olygon ac arferion carbon-uchel, ecolegol ddinistriol.

Dylai addysg fod yn hygyrch i bob dysgwr, waeth beth fo’u gallu deallusol, anableddau, statws iechyd meddwl, hil, rhyw a rhywioldeb Dylai pob dysgwr deimlo bod croeso iddynt gyfrannu at y drafodaeth ar yr hinsawdd a chael eu grymuso i fod yn rhan o’r datrysiad.

Sgiliau

Mae angen addysg sylfaenol ar newid hinsawdd a gwybodaeth gyhoeddus trwy drwch cymdeithas. Dylai’r llywodraeth dyrannu adnoddau a rhoi blaenoriaeth i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd sydd â’r nod o hyrwyddo ymddygiadau sy’n helpu’r hinsawdd, gan fabwysiadu strategaeth sy’n debyg i’r un a ddefnyddiwyd yn ystod pandemig Covid. Bydd dysgu gydol oes i oedolion ar bynciau fel gwyrddgalchu/gwrthbwyso carbon, llythrennedd carbon, economi gylchol, ymwybyddiaeth ôl-ffitio adeiladau, teithio cynaliadwy, tyfu bwyd a bioamrywiaeth, yn arwain at ddealltwriaeth ledled Cymru o’r argyfwng hinsawdd a natur presennol a’r camau y gellir eu cymryd i addasu a lliniaru’r gwaethaf o’r argyfyngau deuol hyn. Bydd hyn hefyd yn arwain at gefnogaeth i fesurau pellach a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch adeiladau, trafnidiaeth, addysg, amaethyddiaeth ac ati

O ran y rheiny sydd yn cael cyflogi, dylid darparu addysg sylfaenol newid hinsawdd trwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus blynyddol, gorfodol wedi’i deilwra ar gyfer rolau penodo Gall hyn fod yn debyg i hyfforddiant llythrennedd carbon ond mi ddylai fynd y tu hwnt i garbon yn unig. . Dylid ystyried addysg barhaus a dysgu gydol oes ym meysydd atebion i’r hinsawdd ac argyfyngau ecolegol fel ‘y norm’, gyda’r holl weithlu’n teimlo ymdeimlad o gyfrifoldeb. Nid cyfrifoldeb arbenigwyr amgylcheddol a chynaliadwyedd yn unig fydd hyn Bydd y berthynas ddwyochrog rhwng y sector cyflogaeth a phrifysgolion a cholegau yn allweddol i ddatblygu modiwlau newydd sy’n sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu haddysgu sgiliau cyfredol ac angenrheidiol ar gyfer y cyfnod pontio cyfiawn.

Dylai’r rhai hynny sydd mewn swyddi sy’n wynebu’r cyhoedd, e.e. y llywodraeth, darllenwyr newyddion a rhagolygon y tywydd, ymgymryd â hyfforddiant mwy dwys a phenodol i’w helpu i ddeall yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol a sut mae’n effeithio ar bawb yn y gymdeithas Dylid ystyried hyn yn debyg i hyfforddiant diogelu neu gymorth cyntaf yn y gwaith, anabledd neu hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae angen hyfforddiant mwy penodol ar bobl sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar effeithiau’r argyfwng hinsawdd ar iechyd, caffael cadarnhaol yn yr hinsawdd a gwaredu gwastraff cadarnhaol i’r hinsawdd. Mae’r rhai sy’n gweithio fel adeiladwyr, mewn gwaredu gwastraff, amaethyddiaeth, arlwyo ac ymchwil a datblygu angen hyfforddiant gwaredu gwastraff a chaffael arbenigol.

Dylai pob gweithiwr mewn cyflogaeth garbon-uchel neu ddinistriol yn ecolegol (e.e. seilwaith tanwydd ffosil, mwyngloddio, cynhyrchu a chadwyn gyflenwi, gweithgynhyrchu carbon uchel, trafnidiaeth sy’n seiliedig ar danwydd ffosil ac ati) cael y cyfle i ailhyfforddi mewn swyddi carbon isel o’u dewis, naill ai trwy golegau neu hyfforddeion yn y gwaith. Ni ddylai statws ariannol fod yn rhwystr i ail-hyfforddi. Dylai cymorthdaliadau’r llywodraeth o gyflogaeth yn y dyfodol (e.e. gweithgynhyrchu batrïau, gosodiadau pwmp gwres, gweithgynhyrchu trafnidiaeth trydan, dylunio yn seiliedig ar economi cylchol) sicrhau bod cyflogaeth yn parhau yng Nghymru ac y bydd hyfforddeiaethau ail-sgilio ar gael. Ein cais am eich tystiolaeth a’ch sylwadau

Ein cais am eich tystiolaeth a’ch sylwadau

Cefnogwch ni i nodi llwybr ymlaen i Gymru tuag at sero net drwy addysg, sgiliau a gwaith erbyn 2035 neu’n gynt. Yn hyn o beth rydym yn ymwneud â:

  • sut rydym yn addysgu myfyrwyr mewn addysg statudol o’r blynyddoedd cynnar i’r 6ed Dosbarth mewn addysg newid hinsawdd
  • sut rydym yn ymgorffori/ehangu rhaglenni hyfforddiant galwedigaethol cyfredol ar gyfer sgiliau pontio cyfiawn
  • sut rydym yn mynd i’r afael ag Addysg Newid Hinsawdd ar lefel prifysgol
  • sut i ddatblygu a chyflwyno dysgu Addysg Newid Hinsawdd gydol oes fel bod holl boblogaeth Cymru yn ymwybodol o effeithiau’r argyfyngau hinsawdd a natur deuol, a pha addasiadau sydd eu hangen.
  • sut i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer trosglwyddo teg oddi wrth ddiwydiannau carbon uchel i ddiwydiannau carbon isel
  • sut i greu llwybrau hyfforddi penodol ar gyfer gyrfaoedd arbenigol sy’n wynebu’r cyhoedd
    e.e. newyddiadurwyr, i’w galluogi i gyfathrebu’r argyfyngau deuol yn well
  • le gallai mentrau fel incwm sylfaenol cyffredinol, wythnos waith 4 diwrnod, gwasanaethau cyffredinol gefnogi’r trosglwyddiad cyfiawn yng Nghymru.
  • unrhyw beth arall rydych chi’n meddwl sy’n berthnasol i’r alwad hon a nad sydd wedi’i gynnwys yn y meini prawf eithrio isod.

Nid ydym yn cynnwys defnydd o ynni, adeiladau, cinio ysgol na chysylltedd digidol yn ein gwaith. Er ein bod yn cydnabod eu pwysigrwydd, byddant yn cael eu cwmpasu gan her arall o fewn grwpiau Her Sero-Net Cymru erbyn 2035.

Mae’r Grŵp yn croesawu cyflwyno barn, astudiaethau achos a thystiolaeth berthnasol, y gellir eu cyflwyno drwy wefan y Grŵp: https://netzero2035.wales/submit-evidence/evidence-submission-portal/.

Sylwch fod y Grŵp Her yn chwilio am dystiolaeth o’r hyn y gellir ei wneud erbyn 2035 a beth fuasai angen bod ar waith er mwyn i hynny ddigwydd. Bydd yr alwad hon am dystiolaeth ar agor rhwng 8 Tachwedd 2023 a 20 Rhagfyr 2023

Bydd y Grŵp yn gwahodd adborth pellach ar ei gasgliadau drafft cyn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ystod haf 2024. Bydd mwy o fanylion ar gael eu darparu i ymatebwyr maes o law.


Posted

in

by

Tags:

Comments

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *