Datganiad pennawd

Dywedodd Andy Regan, Rheolwr Cenhadaeth Ddyfodol Gynaliadwy Nesta a chyd-gadeirydd yr Her: “Ni fu cymaint o ffocws erioed ar y rôl y mae ein cartrefi ac adeiladau eraill yn ei chwarae ar y daith i sero net Maent yn cynrychioli tua un rhan o bump o gyfanswm ein hallyriadau yng Nghymru, ac mae’r argyfwng prisiau nwy presennol yn golygu bod biliau ynni yn gyfran gynyddol o incwm cartrefi. Ceir atebion i’r problemau hyn yn nhrydaneiddio gwres yn effeithlon, ond bydd cyflawni hyn ym mhob cartref ac adeilad yn bell o fod yn syml. Mae’r grŵp Sero Net 2035 wedi cael y dasg nid yn unig o ddod o hyd i lwybrau datgarboneiddio cyflymach, ond hefyd i ddod o hyd i’r rheiny a fydd yn creu’r buddion ychwanegol mwyaf trwy’r trawsnewid. ydym yn awyddus i ddeall y dystiolaeth o fentrau sy’n darparu datgarboneiddio a manteision eraill.”.

Dywedodd Judith Thornton, Rheolwraig Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth parthed Carbon isel a chyd-gadeirydd yr Her “Rydym yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser mewn adeiladau, ac felly mae’n hanfodol bod ein hamgylchedd dan do yn gweddu ein hiechyd ac yn cyfoethogi ein lles. Yn anffodus, nid yw hyn o reidrwydd yn wir ar hyn o bryd, ac wrth i ni ddatgarboneiddio cartrefi a gweithleoedd yng Nghymru mae’n rhaid i ni achub ar y cyfle i wella safonau byw heb adael unrhyw un ar ôl. Mae maint yr her datgarboneiddio adeiladau hefyd yn creu cyfleoedd i uwchsgilio ein gweithlu i ateb y galw. Nid yw’r materion hyn yn unigryw i Gymru, ac rydym yn awyddus i ddysgu gan eraill sut maent wedi cyflawni’r newid sydd ei angen ar yr un pryd, gan gynnal ansawdd.”

Ein gweledigaeth ddrafft

Yn dilyn ein deialog gychwynnol, rydym wedi llunio gweledigaeth ddrafft er mwyn arddangos cyfeiriad ein taith, ac ysbrydoli meddyliau ar Sut y gall Cymru gynhesu ac adeiladu cartrefi a gweithleoedd erbyn 2035 tuag at gyflawni sero net ac uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol:

  • rwy greu swyddi gwyrdd o ansawdd da i adeiladu, cynnal a gwella cartrefi a gweithleoedd fel eu bod yn addas tu hwnt i anghenion preswylwyr;
  • trwy ganolbwyntio ar wresogi trydaneiddio o ffynhonnell adnewyddadwy ochr yn ochr â defnydd mwy cylchol ac effeithlon o adnoddau sy’n lleihau’r defnydd o ddeunyddiau anadnewyddadwy o’r newydd;
  • trwy ddiwylliant o ddinasyddion mwy ymwybodol ac ymgysylltiedig sy’n defnyddio ynni yn effeithlon, ochr yn ochr â diogelu ac addasu adeiladau sydd â gwerth hanesyddol sylweddol;
  • trwy sicrhau bod pawb yn gallu fforddio cadw eu cartrefi’n gynnes ac yn ddiogel; ble nad oes unrhyw un yn byw mewn tlodi tanwydd, neu mewn tai sy’n effeithio’n negyddol ar eu hiechyd a’u lles.

Ein cais am eich tystiolaeth a’ch sylwadau

Wrth geisio adborth ar gyfer yr her hon, rydym yn cydnabod strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Strategaeth Wres i Gymru (https://www.llyw.cymru/strategaeth-wres-i-gymru-html) Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai agweddau o wresogi ac adeiladu wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru, ond bod eraill yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU.

Mae’r Grŵp yn croesawu cyflwyno barn, astudiaethau achos a thystiolaeth berthnasol, y gellir eu cyflwyno drwy wefan y Grŵp: https://netzero2035.wales/submit-evidence/evidence-submission-portal/.

Gennym ddiddordeb penodol yn y canlynol:

  • Beth allai gyflymu’r cynnydd i ddyddiad cau mwy uchelgeisiol na 2050?
  • Pa nodau cyd-fuddion / Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (fel y nodir yn ein gweledigaeth) allai wella polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol?
  • A oes gennych enghreifftiau o brosiectau / ymchwil sy’n cyfrannu at gynnydd mewn datgarboneiddio adeiladu, yn ogystal â chyfrannu at nodau eraill?

Sylwch fod y Grŵp Her yn chwilio am dystiolaeth o’r hyn y gellir ei wneud erbyn 2035 a beth fyddai angen bod ar waith er mwyn i hynny ddigwydd. Bydd yr alwad hon am dystiolaeth ar agor rhwng 1af Tachwedd 2023 a 30ain Tachwedd 2023.

Bydd y Grŵp yn gwahodd adborth pellach ar ei gasgliadau drafft cyn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ystod haf 2024. Bydd mwy o fanylion ar gael eu darparu i ymatebwyr maes o law.