Gweledigaeth

Ar hyn o bryd nid yw’r byd ar y trywydd iawn i osgoi effeithiau trychinebus newid hinsawdd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd gwyddonwyr blaenllaw yr hyn a elwir yn “ein rhybudd terfynol” 1. Rydym eisoes yn profi newid yng Nghymru 2. Mae tymereddau cynhesach, lefel y môr yn codi, patrymau glawiad cyfnewidiol a digwyddiadau tywydd mwy eithafol yn gyfarwydd erbyn hyn. Er y gallai gweithredu ar y cyd i leihau allyriadau gyfyngu ar effeithiau yn y dyfodol, fel y mae’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd yn ei gwneud yn glir, mae’n anochel y bydd tarfu sylweddol ar yr hinsawdd yn awr. Fel y mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi dweud, mae angen cymryd camau ar unwaith i addasu a pharatoi yn awr.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi dangos yr ewyllys gwleidyddol i wneud penderfyniadau anodd drwy ddod at ei gilydd i ofyn am gyngor ar sut y gall Cymru gyflymu cynlluniau i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn.

Bydd Grŵp Her Sero Rhwyd Cymru 2035 yn archwilio ffyrdd o gyflymu’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau Cymru ar y newid yn yr hinsawdd, mewn modd sy’n mynd i’r afael â’r heriau cysylltiedig niferus sy’n wynebu Cymru, o sicrwydd bwyd ac ynni i fywoliaethau gwledig a chyfleoedd economaidd i bawb.

Pam fod yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn bwysig neu o ddiddordeb i eraill? Yn 2015, pan gyflwynwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), dywedodd Nikhil Seth, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Cenhedloedd Unedig,‘Yr hyn y mae Cymru’n ei wneud heddiw, bydd y byd yn ei wneud yfory’ gan mai’ gan mai Cymru yw’r unig wlad o hyd yn y byd gyda chyfraith i wella llesiant pobl heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Yn 2023, mae’r Cenhedloedd Unedig yn creu Llysgennad byd-eang ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol yn seiliedig ar ddull Cymru o weithio: https://www.futuregenerations.wales/news/wales-leading-the-way-with-genhedlaethau-y-dyfodol-deddfwriaeth-un-cynlluniau-i-fabwysiadu-dull-cymraeg/