Trwy ddeialog gychwynnol mae’r Grŵp wedi cynhyrchu datganiadau gweledigaeth drafft i ddangos ein cyfeiriad, a gobeithio yn ysgogi syniadau ar sut y gallai system fwyd i Gymru edrych yn 2035 i gyflawni sero net ac uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae gennym ddiddordeb mewn gwybod a ydych yn cytuno â’r datganiadau hyn a sut olwg fyddai ar gynllun 10 mlynedd i’n helpu i gyrraedd yno.

Datganiadau Gweledigaeth Drafft ar gyfer Sut y gallai Cymru fwydo ei hun erbyn 2035?:

  • Trwy system fwyd sy’n gweithio ochr yn ochr â natur, gan wrthdroi’r tueddiadau hirsefydlog o ddiraddio ecosystemau a darparu digon o le ar gyfer tir sy’n atafaelu carbon deuocsid.
  • Trwy system fwyd fwy cylchol a thecach sy’n cadw mwy o werth i’n heconomi ac yn cymryd llai o’n hamgylchedd, gan greu cymunedau gwledig mwy bywiog.
  • Trwy system fwyd sy’n cynhyrchu canlyniadau iach i bobl Cymru, gan wrthdroi’r tueddiadau ar glefydau sy’n gysylltiedig â diet. Lle mae pobl Cymru yn fwy gwybodus ac yn cymryd mwy o ran yn eu system fwyd.
  • Trwy system fwyd sy’n gallu gwrthsefyll newidiadau mewn amhariadau hinsoddol ac economaidd, sy’n sicrhau safonau moesegol ac amgylcheddol uchel yn rhyngwladol.

Mae’r Grŵp yn croesawu cyflwyno safbwyntiau, astudiaethau achos a thystiolaeth berthnasol, y gellir eu cyflwyno drwy wefan y Grŵp: [add link]

Sylwch fod y Grŵp yn chwilio am dystiolaeth o’r hyn y gellir ei wneud erbyn 2035 a beth fyddai angen ei wneud er mwyn i hynny ddigwydd. Yr her gyntaf ‘Sut y gallai Cymru fwydo’i hun erbyn 2035? ar agor o Ebrill 26ain – Mehefin 30ain 2023.

gallai Cymru fwydo’i hun erbyn 2035? ar agor o Ebrill 26ain – Mehefin 30ain 2023. Mae’r Grŵp yn bwriadu cyhoeddi ei gasgliadau drafft ar gyfer pob Maes Her o fewn 4 mis i lansio’r Her a bydd yn gwahodd adborth pellach ar ei gasgliadau drafft cyn cyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn haf 2024. Bydd mwy o fanylion ar gael eu darparu i ymatebwyr maes o law.