Cefndir
- Yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021, ymrwymodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i Gytundeb Cydweithio i weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth o feysydd polisi1 O dan y thema ‘Cymru Wyrddach i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd a’r Argyfwng Natur’, gwnaed ymrwymiad i “gomisiynu cyngor annibynnol i archwilio llwybrau posibl i sero-net erbyn 2035 – y dyddiad targed presennol yw 2050. Bydd hyn yn edrych ar effaith ein heconomi ar gymdeithas a sectorau a sut y gellir lliniaru unrhyw effeithiau andwyol, gan gynnwys sut mae’r costau a’r buddion yn cael eu rhannu’n deg. Rydym yn cefnogi datganoli pwerau ac adnoddau pellach y mae ar Gymru eu hangen i ymateb yn fwyaf effeithiol i gyrraedd sero net…”.
Cwmpas
- Bydd y cyngor arbenigol yn ystyried llwybrau i gyrraedd sero net erbyn 2035, sy’n gydnaws ag uchelgeisiau nodau a dulliau gweithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015)2.
- Ar ben hynny, bydd y cyngor arbenigol yn ychwanegol at y gwaith perthnasol a wneir gan Lywodraeth Cymru ac ni fydd yn ailadrodd y gwaith hwnnw.
Aelodaeth
- Cadeirydd y Grŵp fydd Jane Davidson, Dirprwy Is-Ganghellor Emeritws, Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Yn absenoldeb y Cadeirydd penodedig, bydd Dan Birstow, Cyfarwyddwr Polisi ac Ymarfer Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) yn dirprwyo.
- Bydd y Grŵp yn cael ei gefnogi gan Ysgrifenyddiaeth a thîm cymorth tystiolaeth sydd wedi’i leoli yn WCPP.
- Ymysg aelodau craidd y Grŵp mae nifer o arbenigwyr annibynnol (aelodau arbenigol), a ddewiswyd o bob rhan o’r byd academaidd, a sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Dewiswyd aelodau arbenigol ar sail eu harbenigedd thematig unigol a’u cyfatebolrwydd â gofynion cyfunol y Grŵp, gan gynnwys i sicrhau sylw ar draws yr holl sectorau allweddol. Gwnaed ymdrech i ddewis arbenigwyr mewn sefydliadau yng Nghymru, y rhai oedd yn canolbwyntio ar ymchwil ar Gymru a’r rheini oedd â chyrhaeddiad ehangach yn y DU a chyrhaeddiad rhyngwladol cysylltiedig ag arferion gorau.
- Bydd nifer o sefydliadau sy’n ymwneud â chyflawni sero net hefyd yn cael eu croesawu i’r Grŵp fel arsylwyr, gan gynnwys rhai a benodwyd gan Lywodraeth Cymru.
- Bydd disgwyl i’r aelodau fynychu cyfarfodydd a chyfrannu’n effeithiol (gan gynnwys drwy ohebiaeth). Gellir dirymu aelodaeth gan y Cadeirydd lle nad yw hyn yn wir.
- Ni fydd y Cadeirydd na’r Aelodau yn derbyn tâl, fodd bynnag, rhagwelir treuliau rhesymol e.e. ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb.
- Mae rhestr lawn o’r aelodau ar gael yn: https://netzero2035.wales/sample-page/members/
Rolau
- Mae’r disgwyliadau cyffredinol ar gyfer holl aelodaeth y Grŵp fel a ganlyn:
- Cynnal safonau moesegol uchel, gan weithredu yn unol â Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (a elwir hefyd yn Egwyddorion Nolan)3
- Ymateb i’r 7 Nod a 5 Dull Gweithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gyda’r bwriad o lywio meddwl o ran yr egwyddor datblygu cynaliadwy
- Mynychu cyfarfodydd a chyfrannu’n effeithiol (gan gynnwys drwy ohebiaeth);
- I beidio â rhannu barn ar ran y Grŵp yn allanol, oni bai am gasgliad cyhoeddedig y Grŵp neu gyda chytundeb penodol gan y Cadeirydd;
- Darparu tystiolaeth ddiduedd a chadarn fel y bo’n briodol.
- Bydd y Cadeirydd yn cyflawni’r cyfrifoldebau canlynol
- Goruchwylio datblygiad gwaith y Grŵp
- Sicrhau y bydd canlyniadau’n cael eu cyflawni drwy asesu cynnydd yn rheolaidd, gan weithio gyda’r Ysgrifenyddiaeth
- Cadeirio cyfarfodydd a galluogi cyfranogiad teg gan yr holl aelodau
- Yn chwarterol, briffio’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Aelod Dynodedig, gyda chefnogaeth yr Ysgrifennydd
- Bydd yr Ysgrifennydd yn cyflawni’r cyfrifoldebau canlynol:
- Strategeiddio a threfnu gwaith y Grŵp, mewn cydweithrediad â’r Cadeirydd a’r Aelodau
- Cysylltu ag Aelodau i sicrhau bod eu safbwyntiau, fel y bo’n briodol, yn cael eu hymgorffori mewn dogfennau gwaith
- Sicrhau bod dogfennau gweithio o ansawdd digonol a’u bod yn cael eu darparu’n brydlon, gan gynnwys gweithio gyda’r ysgrifennydd cofnodion ar gadw cofnodion;
- Gweithredu fel prif gyswllt ar gyfer ymholiadau allano
- Datblygu a chynnal presenoldeb allanol effeithiol y Grŵp, gan gynnwys ar-lein
- Yn chwarterol, cefnogi’r Cadeirydd wrth friffio’r Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Aelod Dynodedig
- Cefnogi aelodau arbenigol i gynrychioli’r Grŵp yn allanol, fel y bo’n briodol
- Cefnogi aelodau arbenigol i gynrychioli’r Grŵp yn allanol, fel y bo’n briodol
- Bydd yr arsylwyr:
- Ar sail anghenion ac fel y penderfynir gan aelodau arbenigol, yn cael eu galw i ddarparu tystiolaeth
- Yn rhoi gwybod i’r Ysgrifenyddiaeth o fynychwr dirprwyol; pan fo’n bosibl
- Bydd tîm cymorth tystiolaeth WCPP yn ymgymryd â’r cyfrifoldebau canlynol
- Cefnogi’r broses o gasglu, gwerthuso a chyfosod tystiolaeth i hwyluso gwaith y Grŵp
Cyfarfodydd
- Bydd y Grŵp yn cyfarfod yn fisol drwy gydol ei fodolaeth. Disgwylir i gyfarfodydd gael eu cynnal yn bennaf drwy ddulliau rhithwir, gyda fformat hybrid yn cael ei ddefnyddio ar sail anghenion.
- Cytunir ar agenda ar gyfer pob cyfarfod mewn gohebiaeth â’r aelodau, a fydd yn cael ei rhannu ar y cyd ag unrhyw bapurau perthnasol wythnos cyn cyfarfod.
- Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn sicrhau eu bod yn cymryd cofnodion ffurfiol, cywir ac o ansawdd uchel Bydd cofnodion ffurfiol yn cael eu rhannu fel y gall yr aelodau gyflwyno sylwadau a byddant yn cael eu cadarnhau gan y Cadeirydd cyn cael eu cyhoeddi.
Amserlen
Disgwylir y bydd y gwaith yn digwydd am 18 mis i ddechrau, gan ddechrau ym mis Ionawr 2023.